Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

15 Gorffennaf 2019

SL(5)429 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (SI 1989/306) (y Prif Reoliadau).

Mae'r Prif Reoliadau yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru adennill ffioedd gan ymwelwyr tramor nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig (DU) am gategorïau penodol o ofal iechyd a ddarperir iddynt yng Nghymru, oni bai fod yr ymwelydd tramor, neu'r gwasanaeth y mae'n ei dderbyn, yn destun esemptiad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 124 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006) sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer codi ac adennill ffioedd gan bersonau nad ydynt yn preswylio fel arfer ym Mhrydain Fawr am wasanaethau'r GIG. Maent hefyd yn cael eu gwneud o dan adran 203(9) a (10) o Ddeddf 2006.

Bydd y Rheoliadau yn cywiro cyfeiriadau at gyfraith yr UE a ddaw’n anweithredadwy ar ôl i'r DU ymadael â’r UE ac yn gwneud darpariaeth ar statws ymwelwyr o Wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir o ran talu ffioedd am ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yng Nghymru pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb. Bydd y diwygiadau yn sicrhau bod categorïau penodol o ymwelwyr o Wladwriaethau'r UE/AEE a'r Swistir yn parhau wedi’u hesemptio rhag talu ffioedd am ofal penodol y GIG. Mae'r diwygiadau'n ofynnol hefyd i gynnal yr esemptiadau presennol yn y Prif Reoliadau yn dilyn gwneud Rheoliadau Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Gofal Iechyd Cilyddol) (Diwygio etc.) (Ymadael â'r DU) 2019 (SI 2019/776).   

Mae’r Rheoliadau’n darparu fel a ganlyn:

•        Cadw'r hawl bresennol i unigolion sy'n preswylio fel arfer yng Ngwladwriaethau'r AEE neu'r Swistir i dderbyn gofal y GIG heb dalu ffioedd os bydd ganddynt ddogfen gofal iechyd cilyddol a ddyroddir gan y DU ar y diwrnod ymadael neu os byddent wedi bod yn gymwys i gael dogfen o'r fath pe bai’r rheolau a oedd yn gymwys cyn y diwrnod ymadael heb newid. 

•        Darparu esemptiad rhag ffioedd am driniaeth y mae’r angen amdani'n codi ar ôl y diwrnod ymadael ar gyfer gweithwyr trawsffiniol sy'n cyflawni gweithgarwch cyflogedig neu hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig.

•        Darparu esemptiad rhag codi ffioedd am driniaeth wedi'i chynllunio a ddarperir i ymwelwyr o'r AEE neu'r Swistir, ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny, sy'n rhan o gwrs o driniaeth a awdurdodwyd cyn y diwrnod ymadael.

•        Darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer ymwelwyr tramor am wasanaethau perthnasol a gwmpesir gan gytundeb dwyochrog ag un o Wladwriaethau'r AEE neu'r Swistir sy'n dod i rym ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.

•        Dileu cyfeiriadau at yr UE sydd wedi'u cynnwys yn y Prif Reoliadau a fydd, o bosibl, yn anweithredadwy neu'n anghyson ar ôl diwrnod ymadael.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Fe’u gwnaed ar: 26 Mehefin 2019

Fe’u gosodwyd ar: 28 Mehefin 2019

Yn dod i rym ar:

 

 

 

 

                                                                                                                                  


SL(5)431 – Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 40 (Tai-bach) i Gyffordd 42 (Earlswood), Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 Mya) 2004 (O.S. 2004/2179) (Cy. 208) (“Rheoliadau 2004”) wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn. Bydd Gorchymyn Traffordd yr M4 (Cyffordd 41 (Pentyla) i Gyffordd 42 (Earlswood), Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 mya Dros Dro) 2018 (O.S. 2018/746) (Cy. 144) sydd mewn grym yn y lleoliad uchod yn cael ei ddirymu mewn gorchymyn dirymu ar wahân.

Gwnaed Rheoliadau 2004 gan Bennaeth yr Is-adran Gweinyddu Ffyrdd yn enw’r Cynulliad, gan nad oedd gweithdrefn gymwys yn y Cynulliad ar y pryd ar gyfer Rheoliadau lleol o’r fath.  Oherwydd hynny, nid oedd yn cael ei gyhoeddi yn y dull arferol.  Mae’r drefn bresennol felly yn gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy hygyrch.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

Fe’u gwnaed ar: 02 Gorffennaf 2019

Fe’u gosodwyd ar: 03 Gorffennaf 2019

Yn dod i rym ar: 24 Gorffennaf 2019